P-05-718 – Cyflogau GIG Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Chris Neilsen ar ôl casglu 24 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Sut all hi fod yn iawn bod gweithwyr y GIG yng Nghymru, sy’n gwneud swyddi angenrheidiol, yn ennill cyflog mor isel â £7.80 yr awr pan fo Llywodraeth Cymru yn ariannu’r fath swyddi di-ddim â Chomisiynydd y Dyfodol ar £100k y flwyddyn a Chomisiynydd y Gymraeg ar £90k a nifer o swyddi newydd tebyg. Mae’r haenau newydd hyn o swyddi di-ddim yn wirion a dylid eu diddymu a rhoi’r arian i staff y GIG sydd ar gyflogau isel.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
Dwyrain Casnewydd
Dwyrain De Cymru